Beicio Mynydd Bannau Brycheiniog
To English Pages
Adref
Bothau Llwybrau Graddio a Diogelwch Dolennau
Map
Graddau a Diogelwch

Cyngor technegol a diogelwch

Cymerwch ofal
Gwisgwch helm bob amser.Teithiwch o fewn eich galluoedd a’ch sgiliau gan adael digonedd o amser am eich taith. Cyn cychwyn, gwnewch yn siwr bod eich beic yn ddiogel trwy archwilio olwynion, ffrwynau a’r gêrs. Dywedwch wrth rywun i le y byddwch yn mynd a phryd yr ydych yn bwriadu dychwelyd. Ewch â map priodol yr O.S, cwmpawd, offer cymorth cyntaf sylfaenol, bwyd ac arian gyda chi.

Offer
Ewch â’r offer trwsio sylfaenol gyda chi: y peth gorau yw aml-offeryn beicio penodol, neu bydd angen allweddi Allen 4mm, 5mm a 6mm, a thyrnsgriwiau bach pen gwastad a Phillips. Hefyd gwnewch yn siwr bod gennych chi bwmp, trosolion teiars, offer trwsio pynjar a nifer o diwbiau mewnol sbâr: mae’n haws amnewid tiwb na thrwsio pynjar.

Dillad
Byddwch yn barod am bob math o dywydd trwy wisgo sawl haenen o ddillad y gellwch eu haddasu. Ewch â siaced ddiddos ysgafn, hyd yn oed ar dywydd teg. Mae llodrau byr cwiltiog yn angenrheidiol - gellwch eu gwisgo o dan socasau mewn tywydd oer.

Côd Ymddygiad
Ildiwch i gefyllau a cherddwyr: arafwch, dywedwch “Siwmai” ac ildiwch.
Peidiwch ag ymyrryd â bywyd gwyllt, planhigion neu goed.
Cadwch at y llwybrau a gyhoeddwyd.
Caewch y clwydi y tu ôl ichi bob amser.
Ewch â’ch sbwriel gyda chi.
Peidiwch â chynnau tân.
Cadwch draw o weithgareddau coedwigaeth
Disgwyliwch yr Annisgwyl
Dim sgidio olwyn gefn: gall hyn cychwyn erydiad.
Byddwch yn ystyrgar a chwrtais bob amser i bawb y byddwch yn eu gweld ar eich taith.
Arafwch wrth ddod at fuarth neu feili fferm a’u croesi.

Llwybr Melyn 8km neu lai

Tir gweddol wastad
Arwyneb gwastad ar draws yr holl lwybr
Llwybr o leiaf 6 troedfedd o led
Dim dringfeydd serth
Dim disgyniadau serth

Llwybr Melyn

Llwybr Oren 8-20km

Dringfeydd Cymhedrol
Disgyniadau Cymhedrol
Arwyneb y ddaear yn fwy garw neu ychydig yn llithrig
Ni fyddai dewis llinell yn angenrheidiol
Dylai unrhyw linell ar y llwybr fod yn bosibl a gall gynnwys: cerrig mân, rhigolau llydan bas, tir ychydig yn llithrig.

Llwybr Oren

Llwybr Glas 8-25km

Llethrau cymharol serth yn galw am ymdrech resymol ar ddringfeydd
Gradd uwch o arbenigedd dechnegol ar ddisgyniadau
O bosibl bydd y tir yn orfodi feicwyr i ddewis llinell trwy:
Rhwystrau ar y tir
Cerrig bach
Cerrig mwy o faint
Rhigolau ychydig yn ddyfnach ac yn y blaen
Gall rhigolau a rhwystrau ar y llwybr fwrw olwynion i’r ochr
Mae’n bosibl y bydd rhwystrau’n gwneud disgyn o’r cyfrwy’n anorfod.
Bydd y crogiant yn gweithio dros tir o’r math hwn.

 

Llwybr Glas

Llwybr Coch 30-40km

Tir serth
Rhwystrau mwy o faint - yn gofyn am lefel uchel o arbenigedd beicio
Angen ystod ehangach o symudiadau corff i feicio dros y tir hwn.
Cerrig mawr
Rhigolau cul, dwfn
Tir llithrig dros ben
Tir lle mae angen rheolaeth brecio dda
Rhaid i’r beic fod mewn cyflwr da iawn.
Offer priodol, h.y. teiars a chrogiant da, o bosibl llabedi llaid

Llwybr Coch

Llwybr Du Dros 50km

Tir eithafol
Rhannau i’w hystyried yn hollol amhosibl i’r mwyafrif o bobl

Llwybr Du Dros
   
 
mir
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog