LLWYBRAU
» Graddiwyd y
teithiau i’ch helpu dewis y daith iawn am y dydd a’ch
sioncrwydd a gallu beicio. Darllenwch am ein system graddio llwybrau
newydd
|

Dyma’r canolfannau sydd yn rhoi mynediad
i lwybrau beicio mynydd ac sydd yn cynnig y cyfleusterau canlynol:
• Yn agos i rwydweithiau o lwybrau oddi ar y ffordd
•Cyfleusterau parcio ar gychwyn a phen y daith
• Lluniaeth, toiledau, llety cyfeillgar i feicwyr, arwerthwyr offer yr
awyr agored a mannau hurio beiciau mynydd.
Mae’r pum both yn cynnig diroedd amrywiol.
Unwaith y byddwch wedi profi’r llwybrau o foth penodol,
hwyrach y byddwch am symud ymlaen i’r un nesaf. Trwy aros
dros nos, byddwch yn gallu arloesi’r llwybrau o ddau wahanol
foth. Mae llu o weithgareddau eraill i’w mwynhau ymmhob
un o’r ardaloedd ac o’u cwmpas.
|
|
» MELYN
» GLAS
» COCH
|
Aberhonddu
Canolfan ddelfrydol ar gyfer beicwyr mynydd sydd yn cynnig dewis
o lety, tafarnau a siopau
beicio at ddant pawb. Os yn chwilio am adloniant gyda’r
hwyr, mae sinema, theatr a chanolfan
hamdden yma, ac mae amrywiaeth dda o siopau a lleoedd i fwyta
i’r hunan-arlwywyr. Bu’r
bwyty yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol erioed yn eli
i lygaid beicwyr ac yn
bendant bydd yn gallu rhoi hwb i lefel eich egni.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: www.breconbeacons.org
|
 |
» GLAS
» COCH
|
Crughywel
Mae Crughywel yn cynnig dewis aruthrol o leoedd i fwyta. Mae
ansawdd y siopau hefyd yn
eithriadol am le mor fach. Mae siop offer awyr agored, fferyllydd
a siopau bwyd, ac mae dewis
da o lety a thafarnau, rhai ohonynt yn enwog am eu hysbrydon!
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar: www.crickhowell.org.uk
|
|
» GWYRDD
»GWYRDD2
» GLAS
» COCH
|
Pontsenni
Tref fach tua 8 milltir i’r gorllewin o Aberhonddu yn
ymyl pentref bach Defynnog. Mae Mynydd Epynt
ychydig i’r gogledd yn hyfforddfan bwysig i’r Fyddin
er nad yw’n llwybrau yn mynd trwy
ardaloedd
cyfyngedig. Mae cyfoeth o fywyd gwyllt yn yr ardal a byddwch yn fwy tebygol
o weld y Barcud Coch yma nag mewn unrhyw fan arall. Mae nifer o dafarnau ym Mhontsenni
ac ystod o lety, yn amrywio o hundai o safon a bythynod hunan-arlwyo i lety Gwely
a Brecwast.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar www.breconbeacons.org
|
|
» GWYRDD
» COCH
» COCH2
» DU
|
Talgarth
Ar wahân i’w toreth o Lwybrau Beicio Mynydd penigamp,
mae cyfleoedd di-ri ar gael yng
nghyffiniau Talgarth am weithgareddau awyr agored: gleidio, marchogaeth,
hwylio, canwo:
dyma rai sydd ar gael ichi o fewn ychydig o filltiroedd o Dalgarth.
Mae canolfannau
gweithgaredd gerllaw sydd yn addas ar gyfer pob oedran a gallu.
Cynigir ystod o lety at ddant
pawb.
Cewch ragor o wybodaeth gan www.talgarthtic.demon.co.uk
|
|
» GWYRDD
» GLAS
» COCH
|
Talybont
Yn enwog eisoes am Lwybr Taf, a rhodfeydd ar hyd y llwybr halio
gamlas Gwent a Brycheiniog,
mae’r pentref hwn yn berl go iawn. Datblygiad newydd yw
Tramffordd Bryn Oer 8 milltir o
hyd gyda’i llwybrau ar gyfer beicwyr, cerddwyr a marchogwyr.
Mae llyfryn gyda gwybodaeth
am y llwybrau a hanes yr ardal ar werth mewn Canolfannau Ymwelwyr.
Mae gan y pentref
gynnig da o lety a thair tafarn sydd yn gweini bwyd.
Am ragor
o wybodaeth www.visitourbeacons.com |
|
| |
|
|